Adnoddau cwricwlwm i ysgolion
Cyfnod sylfaen a blynyddoedd cynnar
Gan weithio’n agos gydag athrawon, arbenigwyr cwricwlwm a’r adran addysg, fe wnaethom arloesi wrth gyflwyno dysgu’r Cyfnod Sylfaen drwy greu brand a set o adnoddau a yrrir gan gymeriadau o’r enw ‘Fflic a Fflac’.
80 llyfr, 40 cân, 30 awr o gynnwys digidol rhyngweithiol a 2 byped yn ddiweddarach, rydym wedi gwerthu a dosbarthu miloedd o gynnyrch Fflic a Fflac ac yn parhau i gefnogi dros 1,500 o ysgolion yn eu dulliau addysgu a dysgu.
Llythrennedd a rhifedd
Mae llythrennedd a rhifedd yn gymwyseddau craidd yn y byd sy’n datblygu’n gyflym heddiw. Gan ddefnyddio dull hapchwarae, fe wnaethom greu a chyhoeddi Apiau dysgu sydd yn bennaf oll o'r ansawdd gweledol y mae plant yn ei ddisgwyl, yn hwyl i'w chwarae, ac wedi'u hategu gan ddeilliannau wedi'u mapio'r cwricwlwm ac arweiniad athrawon.
Cymhwysedd digidol
Mae Botio yn ap hapchwarae sydd wedi'i gynllunio ar gyfer plant ysgol gynradd o bob gallu. Ymgollwch mewn set o dasgau sy'n seiliedig ar her i godio'ch ffordd i fyny'r lefelau i gyrraedd canol cysawd yr haul. Ddim yn meddwl eich bod chi'n gwybod beth yw côd? Ddim yn meddwl y gallech chi ysgrifennu côd? Gallwch nawr!
Ieithoedd
Rydym yn dylunio ac yn datblygu ystod o adnoddau dysgu iaith ar gyfer Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg a Chymraeg, yn ogystal â mentrau mentora a rhaglenni ymyrraeth ar gyfer ymwybyddiaeth fyd-eang o iaith a diwylliant.
Dysgu thematig
Fe wnaethom ni ddechrau datblygu adnoddau cenedlaethol i gefnogi dysgu thematig yn 2008 sy’n cyd-fynd â’r "Curriculum for Excellence" yn yr Alban. Gyda drost deng mlynedd o brofiad, rydym bellach yn gosod dysgu thematig i amrywiaeth o’n hallbwn sy’n cyd-fynd â chwricwlwm ac arddulliau dysgu newydd.
Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Ar gyfer dysgwyr ADY yn aml mae'r dewis o adnoddau yn gyfyngedig. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein gwaith ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu adnoddau sy’n helpu i gefnogi addysgu a dysgu Plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu, corfforol neu y synhwyrau.
Penodol i'r pwnc
Gwefannau, apiau, eLyfrau, eGeiriaduron, fideo, animeiddio, eDdysgu ac argraffu; rydym yn gweithio gyda'n tîm o arbenigwyr pwnc i awduro a chynhyrchu adnoddau a chynnwys penodol i gefnogi anghenion addysgu a dysgu. Ewch i’n gwefan learn.cymru i gysylltu â nhw.