Cynnwys dysgu
Dylunio ac adeiladu cyrsiau
Rydym yn dylunio ac yn adeiladu tua 100 awr o gynnwys cwrs eDdysgu y flwyddyn ar gyfer ein cleientiaid. O Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Manwerthu, Cyllid, Amddiffyn, Dysgu iaith, Sgiliau meddalwedd a mwy, mae ein tîm eDdysgu profiadol yn gweithio ar draws llawer o sectorau a phlatfformau.
Cynnwys animeiddiedig a fideo
Rydym yn arbenigo mewn dod â chynnwys yn fyw trwy fideo. Gan ddefnyddio sgript, bwrdd stori, negeseuon allweddol neu hyd yn oed syniad yn unig, rydym yn gweithio gyda'n cleientiaid i gytuno'r arddull a'r dechneg orau i sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf posibl i'w cynulleidfaoedd.
Modiwlau dysgu sy'n cydymffurfio â SCORM/xAPI
Os oes gennych eisoes system neu amgylchedd rheoli dysgu (SRhD/ADRh), gallwn ddylunio ac adeiladu a chyhoeddi cynnwys ym mhob fformat diwydiant cyffredin a fydd yn plygio'n syth i'ch platfform.
Diagnosteg ac asesu
Rydym yn dylunio ac yn integreiddio adnoddau a nodweddion diagnostig i helpu casglu data mwy deallus am gynulleidfaoedd dysgu ac i gyfeirio ac addasu’r dysgu yn well i’w hanghenion penodol. Yna byddwn yn atgyfnerthu'r dysgu gydag asesiad anffurfiol a ffurfiol y gellir ei fapio i'r cwricwlwm ac achredu os oes angen.