Deunyddiau hyfforddi datblygiad proffesiynol
Gweithwyr addysg professiynol Ysgolion ac AB
Trwy ein profiad o ddatblygu adnoddau cwricwlwm a dysgu yn yr ystafell ddosbarth mae gennym fynediad sylweddol a mewnwelediad i’r ffordd orau o gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr addysg proffesiynol. Rydym yn cynhyrchu canllawiau a deunyddiau cymorth ar gyfer Athrawon, Athrawon Newydd Gymhwyso a Chynorthwywyr Addysgu a gefnogir gan y Llywodraeth.
Sgiliau meddal
Rydym yn datblygu ystod o ddulliau arloesol o ddatblygu sgiliau meddal. Wedi’i anelu’n bennaf at ddysgwyr lefel 2 a 3, mae ymgysylltu a chadw effeithiol yn allweddol, ac rydym yn defnyddio dulliau "gamification" ac "avatar" i gyflawni hyn yn ogystal â chwestiynu a rhyngweithio yn seiliedig ar senario mwy traddodiadol.
Dysgu iaith
Drwy ein hymgysylltiad aml-flwyddyn â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, rydym yn cyflwyno rhaglen drawsnewid ddigidol i ganoli’r broses o ddysgu Cymraeg ar raddfa fawr. Mae cyrsiau ac adnoddau ar gyfer dysgu iaith wyneb yn wyneb, cyfunol a chwbl ar-lein ar gael i'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ar draws sectorau targed allweddol. Unwaith y byddwch wedi cofrestru gallwch gymryd diagnostig i asesu eich lefel gallu darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando a chychwyn ar eich taith ddysgu.
Adnoddau DPP
Gyda'n tîm dylunio dysgu ac awduro, rydym yn datblygu ystod o adnoddau eDdysgu DPP ar gyfer cleientiaid corfforaethol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Ar y cyd â'n sgiliau cynhyrchu fideo ac animeiddio rydym yn darparu cynnwys safon uchel am brisiau ac amserlenni cystadleuol.
Video Arts
Sefydlwyd yn wreiddiol gan John Cleese, Video Arts yw ein chwaer gwmni. Mae’r catalog yn cynnwys dros 300 o deitlau o ddatrysiadau dysgu fideo ymgysylltu i sefydliadau i gefnogi datblygiad proffesiynol eu gweithwyr. Mae gwerthoedd cynhyrchu uchel, sgriptiau rhagorol, wynebau cyfarwydd a hiwmor wrth ganol y cynnwys sydd yn cael ei danategu gan rai o arbenigwyr pwnc gorau y byd. Rydym yn gweithio gyda Video Arts i drwyddedu, addasu ac integreiddio eu cynnwys i atebion a llifoedd gwaith ein cleient.