Ein Taith tuag at Ddyfodol Cynaliadwy
Mae newid yn yr hinsawdd yn ail-lunio'r ffordd rydym yn byw ac yn gweithio, ac mae pob un cam gweithredu yn cyfrif – o unigolion sy'n croesawu ynni adnewyddadwy i lywodraethau sy’n gweithredu newidiadau systemig.
Yma yn Tinint, credwn yn gryf y gall arloesi digidol chwarae rôl allweddol wrth adeiladu byd mwy cynaliadwy. Drwy harneisio pŵer technoleg ac atebion creadigol, ein nod yw helpu ein cleientiaid a’n cymunedau i gael effaith ystyrlon a pharhaol ar y blaned.
Mae dewisiadau digidol yn gwneud gwahaniaeth
Ar yr olwg gyntaf, bydd rhai o'r farn nad yw’r diwydiant digidol yn chwarae rhan amlwg ym maes cynaliadwyedd. Nid ydym yn echdynnu deunydd crai nac yn defnyddio nifer fawr o gerbydau, ond y gwir yw bod y byd digidol yn dal i greu ôl troed amgylcheddol sylweddol. Gall pob dewis a wnawn ynghylch technoleg, dylunio a seilwaith helpu i lunio dyfodol glanach a mwy cynaliadwy.
A wyddoch chi...?
- Mae’r rhyngrwyd yn gyfrifol am 3.8% o allyriadau carbon byd-eang.
- Dim ond 1 o bob 4 gwefan sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy.
- Mae gwefan arferol gyda 10,000 o ymwelwyr y mis yn cynhyrchu tua 535 kg o CO₂ bob flwyddyn.
- Gall negeseuon e-bost – yn enwedig y rhai sy'n cynnwys atodiadau neu ddelweddau – gynhyrchu hyd at 50g o CO₂ yr un.
Ein Hymrwymiad i Sero Net
Yn Tinint, mae ein Cynllun Lleihau Carbon yn cyfuno targedau ymarferol â nodau uchelgeisiol, gan sicrhau bod ein hymrwymiadau ehangach o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn cyd-fynd â mentrau y gallwn eu cyflawni o ddydd i ddydd.
Prif ymrwymiadau:
- Lleihau allyriadau yn unol â Chytundeb Paris y Cenhedloedd Unedig
- Anelu at ostyngiad o 4–5% o leiaf bob blwyddyn, hyd at 2050
- Cefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig:
- #9: Diwydiant, Arloesi a Seilwaith
- #12: Patrymau Defnydd a Chynhyrchu Cyfrifol
- #13: Gweithredu ar newid yn yr hinsawdd
- Cyrraedd Sero Net erbyn 2050
- Cwmpas 1 & 2: Sero Net erbyn Blwyddyn Ariannol 2025/26
- Cwmpas 3 (teithio i’r gwaith, gweithio o bell): Lleihad sylweddol erbyn Blwyddyn Ariannol 2025/26
- Gwrthbwyso'r allyriadau y tu hwnt i'n rheolaeth sy’n weddill
- Sicrhau Ardystiad B Corp
- Targed: Blwyddyn Ariannol 2026/27
Targedau a chamau gweithredu sy’n seiliedig ar ddata
Yn Tinint, mae ein strategaeth lleihau allyriadau carbon yn seiliedig ar dargedau clir a mesuradwy, yn ogystal â monitro parhaus. Darllenwch ein cynllun llawn i weld sut rydym yn mynd ati i droi nodau cynaliadwyedd yn gamau gweithredu ymarferol yn y byd go iawn.
Lawrlwythwch ein Cynllun Lleihau Carbon (Awst 2025).