Fideo a chynnwys animeiddiedig
Eglurwur animeiddiedig
Yn un o arloeswyr cynnar ‘Eglurwyr animeiddiedig’, mae brandiau rhyngwladol gan gynnwys H&M, Jaguar Land Rover, Honeywell a Honda yn ymddiried ynom i gyflwyno eu cynnwys a’u hymgyrchoedd B2B a B2C. Mae gennym hanes balch o gleientiaid yr ydym wedi darparu cynnwys hynod lwyddiannus ar eu cyfer gan gynnwys 'Secrets of the Science of Persuasion' sydd wedi cyflawni dros 11 miliwn o ymweliadau YouTube a 120 mil o bobl yn hoffi.
Fideo 360
Mae fideo 360 yn tyfu’n gyflym mewn poblogrwydd ac yn dod yn fwyfwy hygyrch. Rydyn ni’n ffilmio ac yn golygu cynnwys actio byw wedi’i saethu mewn 360 gan roi golwg ‘o gwmpas’ anghyfyngedig i’r gynulleidfa i edrych lle maen nhw eisiau, pan maen nhw eisiau. Rydyn ni'n gweld bod cynnwys 360 yn gweithio'n arbennig o dda pan fyddwch chi am fynd â'r gwyliwr yn agosach at brofiad, adwaith neu emosiwn bywyd go iawn.
Ffilmio drone
Ewch â'ch cynnwys i uchelfannau newydd gyda chynnwys ffilmio drone. Mae gennym peilotiaid gyda chymwys drone a staff cyn-gynhyrchu i ymgymeryd a'r holl gliriadau gofod awyr a diogelwch angenrheidiol ar eich cyfer ac yna yn bwysicaf oll... dal cynnwys hardd i hyrwyddo eich lleoliad, senario neu gynnyrch o'r safbwyntiau mwyaf deinamig.
Ffilmio astudiaeth achos
Rydym yn cynhyrchu fideos astudiaeth achos ar gyfer llawer o sefydliadau sector. Gydag amrywiaeth o ddulliau cynhyrchu sy'n addas ar gyfer eich cyllideb a'ch briff, rydym yn cynllunio, saethu, golygu a chyflwyno gyda graddadwyedd mewnol sylweddol ar gyfer cynyrchiadau swmp ac amlieithog / isdeitlo. Rydym yn gwahodd cleientiaid i weithio gyda ni trwy gydol y cynhyrchiad i gael tryloywder a mewnbwn llawn lle bynnag y bo angen.
Drama ac ail-greu
Mae ein pedigri cynhyrchu darlledu fel rhan o Grŵp Tinopolis, sydd wedi ennill gwobrau Bafta ac Emmy, yn rhoi mynediad heb ei ail i sgiliau a dalent i ni i gynhyrchu cynnwys dramatig ac adluniol o safon uchel. Boed comedi, drama neu senario ffeithiol yw eich gofyniad, gallwn gastio, sgriptio a chynhyrchu eich cynnwys i’w ddarlledu, ar y we, yn gymdeithasol neu’n gorfforaethol fewnol.